Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (79)v5 |
1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ (45 munud)
|
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth (45 munud)
|
Cwestiwn Brys
Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad brys ar y goblygiadau i Remploy yng Nghymru yn sgîl datganiad Maria Miller, Gweinidog Llywodraeth y DU dros Bobl Anabl, ar benderfyniad Bwrdd Remploy. |
3. Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ddinas-ranbarthau (45 munud) |
4. Dadl ar ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru (60 munud)
NDM5033 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad i'r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mai 2012.
Noder: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Gorffennaf 2012.
Dogfennau Ategol: |
5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar reoli sŵn o dyrbinau gwynt (60 munud)
NDM5036 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Reoli Swn Tyrbinau Gwynt, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mai 2012.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 4 Gorffennaf 2012.
Dogfennau Ategol: |
6. Dadl Plaid Cymru (60 munud)
NDM5035 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio modelau eraill dielw o berchnogaeth dros y rhwydwaith rheilffyrdd sy’n esgor ar y manteision mwyaf posibl i’r cyhoedd ac i deithwyr.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y rôl bwysig y mae perchnogion y rhwydwaith rheilffyrdd yn ei chwarae o ran cynyddu faint o nwyddau sy’n cael eu cludo'n fasnachol ar y rhwydwaith. |
Cyfnod Pleidleisio |
7. Dadl Fer (30 munud)
NDM5034 Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Anrhydeddu ein Harwyr – Gwarchod Cofebau Rhyfel yng Nghymru |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 17 Gorffennaf 2012